To read this page in English, please click here. I ddarllen y dudalen hon yn Saesneg, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer athro o Gymru ar gyfer rhaglen LIGO 2023 Rhyngwladol Ffiseg a Seryddiaeth bellach wedi dechrau. Dyddiad Cau: 31 Mawrth 2023
Gwahoddir addysgwyr yng Nghymru i wneud cais am arian i fynychu’r rhaglen.
Mae rhaglen Ffiseg a Seryddiaeth Ryngwladol LIGO i addysgwyr yn rhaglen ddwys a chyffrous, wythnos o hyd, ar gyfer addysgwyr mewn ysgolion uwchradd ym mhob cwr o’r byd. Mae’r rhaglen Ffiseg a Seryddiaeth Ryngwladol yn digwydd yn Arsyllfa LIGO yn Hanford, ac mae’n cynnig cyfleoedd i’r cyfranogwyr drafod ag arbenigwyr ym maes ffiseg a seryddiaeth fodern a chlywed ganddynt, mynd o amgylch safleoedd sydd o ddiddordeb hanesyddol a gwyddonol, a rhoi cynnig ar weithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth y gallant eu defnyddio wedyn yn eu sefydliadau gartref. Mae’r pynciau trafod yn amrywio o ffiseg niwclear i feysydd newydd megis tonnau disgyrchol a seryddiaeth amlnegesydd. Bwriad y rhaglen yw hybu’r gwaith o addysgu ffiseg fodern mewn ysgolion uwchradd drwy roi cyfle i athrawon ddyfnhau eu dealltwriaeth o ffiseg a meithrin eu brwdfrydedd ynghylch ffiseg mewn amgylchedd lle gall athrawon o bob cwr o’r byd gyfnewid gwybodaeth a phrofiadau. Yn 2019, roedd y sawl a oedd yn bresennol yn dod o 11 o wledydd.
Bydd yr athrawon yn gweithio mewn timau ac yn chwarae rôl y myfyriwr wrth ddysgu gweithgareddau ymarferol newydd i’w defnyddio yn eu hystafelloedd dosbarth ledled y byd.
Bydd rhaglen 2023 Ffiseg a Seryddiaeth Ryngwladol yn cael ei chynnal yn Arsyllfa LIGO yn Hanford yn rhan ddwyreiniol talaith Washington o ddydd Sul 16 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023. Rhaid bod y cyfranogwyr yn gallu mynychu’r rhaglen gyfan.
Ar hyn o bryd, bwriedir i’r rhaglen ddigwydd wyneb yn wyneb gyda nifer gyfyngedig o gyfranogwyr. Fodd bynnag, os bydd achosion lleol o COVID yn cynyddu’n sydyn, bydd y rhaglen yn cael ei symud ar-lein ac yn digwydd mewn amgylchedd rhithwir. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso i chi anfon ebost i outreach@ligo-WA.caltech.edu.
“Roedd yn brofiad mor wych yn LIGO, mae’r effaith a gafodd arnaf yn enfawr a byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu cymaint ag y gallwn yn y Cwricwlwm i Gymru.” (2022 Cyfranogwr Cymreig)
Protocolau COVID
Rhaid bod pob cyfranogwr wedi’u brechu yn llawn rhag COVID-19. Gofynnir am brawf o’u statws brechu pan fyddant yn cael eu derbyn i’r rhaglen. At hynny, rhaid i’r cyfranogwyr ddilyn pob un o brotocolau diogelu perthnasol Arsyllfa LIGO yn Hanford, a fydd yn cynnwys gwisgo mwgwd pan fo angen.
Cymorth i addysgwr o Gymru
Mae cymorth ariannol gwerth hyd at £2000 ar gael i un athro/athrawes neu addysgwr o Gymru gymryd rhan yn y rhaglen. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus rannu ei brofiadau/ei phrofiadau ag athrawon eraill mewn rhwydweithiau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r ffurflen gais ar gyfer addysgwyr o Gymru.
Uchafswm y cymorth ariannol sydd ar gael yw £2000 a gellir ei ddefnyddio i dalu ffi’r gynhadledd ($300), costau teithio, llety a chynhaliaeth, a chostau rhesymol eraill sy’n ymwneud â chymryd rhan yn y digwyddiad.
Caiff y cyllid hwn ei ddarparu gan Bwyllgor Cymru y Sefydliad Ffiseg a Sefydliad Archwilio Disgyrchiant Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â chris.north@physics.org.
This slideshow requires JavaScript.