Applications open Monday 8th April 2024.
It’s once again time for the Cardiff University Physics Summer School !
This extremely popular 3-day non-residential programme is aimed at AS students who are considering pursuing a physics degree.
This years free event will take place on Monday 17 – Wednesday 19 June 2024, from 10:00-16:30 at Cardiff University School of Physics and Astronomy. A more detailed programme will be released closer to the time, but will include talks, lectures and workshops delivered by staff and students from the School of Physics and Astronomy.
Lectures and workshops will be targeted at AS level (Year 12) students and provide an insight into Physics beyond A-level, such as:
Gravitational Waves
Astronomy and Cosmology
Medical Physics
Nanophysics
Lasers
Semiconductor technology
Students should apply using this application form:
The deadline for applications is 09:00 on Tuesday 7 May 2024. In the case of over subscription places will be allocated on a first come first served basis.
Testimonials and Evaluation
“100% of 2023 participants recommend the programme”
“I really enjoyed the friendly environment and the balance of the talks and workshops”
“Over 2/3 of participants reported being more likely to study physics at University”
Ceisiadau ar agor Dydd Llun 8 Ebrill 2024
Mae’r rhaglen amhreswyl hynod boblogaidd hwn yn cael ei gynnal dros dri diwrnod, ac mae ar gyfer myfyrwyr UG sy’n ystyried gyrfa ym maes ffiseg.
Bydd y gweithdy rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal o 10:00 tan 16:30 ddydd Llun, 17 Mehefin tan ddydd Mercher, 19 Mehefin 2023, a hynny yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd rhaglen fwy manwl yn cael ei chyhoeddi’n agosach at yr amser, ond bydd yn cynnwys cyflwyniadau, darlithoedd a gweithdai gan staff a myfyrwyr o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
Cynulleidfa darged y darlithoedd a’r gweithdai fydd disgyblion Safon UG (blwyddyn 12). Bydd y rhain yn rhoi syniad o’r pynciau nad ydynt yn cael eu hastudio ar lefel Safon Uwch, fel:
Tonnau DisgyrcholSeryddiaeth a ChosmolegFfiseg FeddygolNanoffisegLaserauTechnoleg lled-ddargludyddion
Dylai disgyblion wneud cais drwy lenwi’r ffurflen gais hon:
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 09:00 ddydd Mawrth, 7 Mai 2024. Os bydd gormod o geisiadau’n dod i law, bydd y lleoedd sydd ar gael yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Tystebau a gwerthusiad
“Mae 100% o gyfranogwyr 2023 yn argymell y rhaglen”
“Mwynheais y rhan fwyaf o’r sgyrsiau, yr amgylchedd cyfeillgar a’r cydbwysedd rhwng y sgyrsiau a’r gweithdai yn fawr”
“Nododd dau draean o’r cyfranogwyr eu bod yn fwy tebygol o astudio ffiseg yn y Brifysgol”